CYNGOR CYMUNED LLANENGAN
Clerc – Einir Wyn – Clerk
Fferm Cae Du, Aber-soch, PWLLHELI, Gwynedd. LL53 7HT
Ffôn: (01758) 712434 – tŷ/712707 – peiriant ateb
E-bost: caedu@dialstart.net
Mai 20fed, 2014
Clerc,
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoleb a Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cynulliad Cymru,
BAE CAERDYDD.
CF99 1NA
Annwyl Syr/Fadam,
Ymgynghoriad ar y Bil Safloedd Carafannau Gwyliau (Cymru)
Ysgrifennaf ar ran y Cyngor uchod i fynegi’r sylwadau a ganlyn:
gwrthwyneba gais gan unrhyw faes carafannau sefydlog yn y Gymuned hon i ddiwygio Amod yn ei Ganiatâd Cynllunio er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer gwyliau trwy’r flwyddyn oherwydd y buasai’n cychwyn cynsail i safleoedd eraill (cyfanswm o tua dwy fil o garafannau yn y gymuned hon). Mynegir pryder yr agora hyn ddrws i ddefnyddio’r carafannau yn gartrefi parhaol ac am yr effaith ar yr iaith Gymraeg a chymdeithas gynhenid Gymraeg/Gymreig, ynghyd â bod yn bwysau ychwanegol ar wasanaethau, yn arbennig iechyd a gofal pan wynebant doriadau ariannol. Yn ogystal, nid oes gan Awdurdodau Lleol fodd o’u monitro.
Mae’r Cyngor o blaid rhoi terfyn ar yr arfer o ddefnyddio carafannau gwyliau fel cartrefi preswyl parhaol drwy ei gwneud yn ofynnol i’w perchnogion a meddianwyr hirdymor ddangos bod eu prif breswylfa mewn man arall a rhoi pwerau i awdurdodau lleol ddelio â meddianwyr carafannau sy’n methu’r prawf hwn.
Hyderir yr ystyriwch y sylwadau uchod.
Yn gywir,
Einir Wyn
EINIR WYN
Clerc